Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/01/2020 i'w hateb ar 22/01/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau band eang yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig rhwng cyffordd 44 a chyffordd 46 o'r M4?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith buddsoddi economaidd yn Islwyn ers 2016?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y newid diweddar yn yr amserlenni tren ar orsafoedd llai?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i unrhyw achosion o darfu ar reilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi gogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Pa effaith y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trafnidiaeth ar gyfer 2020/2021 yn ei chael ar yr argyfwng hinsawdd?
Pa flaenoriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus o fewn cyllideb yr economi a thrafnidiaeth?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch nifer y dinasyddion Ewropeaidd sydd wedi cofrestru i aros yng Nghymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ehangu mynediad at gyfiawnder yng Nghymru ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant a rennir?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch effaith Brexit ar y sector modurol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar dde-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar hawliau plant?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar ffyrdd o gryfhau undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar ôl Brexit?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r risgiau i'r trefniadau datganoli yng Nghymru yn sgil Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer Brexit?