Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/01/2019 i'w hateb ar 22/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r rheswm pam mae'r gyfradd ymosodiadau rhyw yn uwch yng Nghymru na'r nifer cyfartalog ar gyfer y DU?
Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ffigurau sy'n dangos mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gyfradd o droseddwyr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ysgafnhau tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella'r sffêr cyhoeddus yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill o ran datblygu cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Cas-Gwent?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael yng ngoleuni ffigurau sy'n dangos mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella amodau gwaith ar gyfer athrawon?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith adfywio canol trefi a dinasoedd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo perchentyaeth?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer y rhai a oedd yn arfer derbyn grant byw'n annibynnol Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i'r cyhoeddiad diweddar ynghylch Wylfa Newydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun twf y gogledd?