Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/11/2018 i'w hateb ar 21/11/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ52970 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cod derbyn i ysgolion o ran disgyblion a gaiff eu geni yn yr haf?

 
2
OAQ52969 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor?

 
3
OAQ52961 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru?

 
4
OAQ52959 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu?

 
5
OAQ52971 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd mewn perthynas â chynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg?

 
6
OAQ52950 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu addysg i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd â nam ar y synhwyrau?

 
7
OAQ52941 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig?

 
8
OAQ52956 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru?

 
9
OAQ52962 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod disgyblion ag anghenion ychwanegol yn gallu cyrraedd eu potensial llawn?

 
10
OAQ52966 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau yn y drefn arholiadau TGAU?

 
11
OAQ52952 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn perthynas ag athrawon cyflenwi?

 
12
OAQ52953 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ganlyniadau TGAU yn haf 2018?

 
13
OAQ52964 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer chweched dosbarth ysgolion uwchradd?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ52963 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynyddu cyfleoedd i bobl gael eu profi ar gyfer HIV, gan gynnwys o fewn lleoliadau cymunedol, drwy hunan-brofi a samplo yn y cartref?

 
2
OAQ52943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gyfraddau imiwneiddio yng ngogledd Cymru?

 
3
OAQ52938 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser yng Ngogledd Cymru?

 
4
OAQ52954 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd y brechlyn ffliw y gaeaf hwn?

 
5
OAQ52945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwad parhaus o gyffuriau fferyllol i GIG Cymru os bydd Brexit yn digwydd heb fargen?

 
6
OAQ52965 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysau cynnyddol ar feddygon teulu yng Ngogledd Cymru?

 
7
OAQ52968 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
8
OAQ52942 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am feddyginiaeth newydd sy'n cael ei dosbarthu drwy'r gronfa triniaethau newydd?

 
9
OAQ52944 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddeunydd pacio cyffuriau presgripsiwn yng Nghymru?

 
10
OAQ52951 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol camddefnyddio alcohol?

 
11
OAQ52955 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgymryd â hwy i hyrwyddo de-ddwyrain Cymru fel lle ardderchog i ymarferwyr cyffredinol weithio a byw?

 
12
OAQ52967 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau safonau mewn cartrefi gofal a reolir yn breifat?

 
13
OAQ52960 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddyginiaethau newydd?

 
14
OAQ52957 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru?

 
15
OAQ52946 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ganllawiau drafft NICE ar reoli anymataliaeth wrinol a phrolaps organau'r pelfis drafft sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd?