Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/05/2019 i'w hateb ar 21/05/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau'r sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at greu llywodraeth ffeministaidd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwerslyfrau adolygu yn ein hysgolion?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynnig gofal plant a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella tir amaethyddol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amgylchedd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am strwythurau rheoli yn y gwasanaeth iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn y broses o ddatrys yr anghydfod yn ymwneud ag atal uwch swyddogion gweithredol yng Nghyngor Caerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r polisïau gofal presennol ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r gwariant hyd yma gan adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i'r adolygiad barnwrol o benderfyniadau'r crwner mewn perthynas â'r cwest i farwolaeth Carl Sargeant?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am effaith bosibl creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru ar gyfreithwyr Cymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o orfodi deddfwriaeth ledled Cymru?
Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo yn yr adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi Llywodraeth y DU o ran gwneud oedrannau pensiwn menywod yn gyfartal ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch llysoedd teulu i sicrhau eu bod yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth weithio gyda phlant yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar ynghylch ymgorffori confensiynau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru?