Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/03/2018 i'w hateb ar 21/03/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

1
OAQ51936 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil?

 
2
OAQ51921 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru?

 
3
OAQ51933 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen?

 
4
OAQ51952 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Penfro?

 
5
OAQ51928 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gynghorau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn?

 
6
OAQ51934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol?

 
7
OAQ51948 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl mentrau cymdeithasol yng nghynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol?

 
8
OAQ51930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch darparu gwasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau?

 
9
OAQ51947 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i gyn-filwyr yng Nghymru?

 
10
OAQ51945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa ganllawiau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyhoeddi i awdurdodau lleol am gydweithio â chyrff sector cyhoeddus eraill?

 
11
OAQ51950 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fonitro'r trefniadau ar gyfer dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben?

 
12
OAQ51949 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau mewn awdurdodau lleol?

 
13
OAQ51953 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol yn Nhorfaen?

 
14
OAQ51939 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

1
OAQ51938 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi?

 
2
OAQ51946 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru?

 
3
OAQ51919 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella'r system gynllunio yng Nghymru?

 
4
OAQ51922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru?

 
5
OAQ51932 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri?

 
6
OAQ51940 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at reoli afonydd?

 
7
OAQ51925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?

 
8
OAQ51937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn achosion o glefyd pydredd Alabama?

 
9
OAQ51941 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy?

 
10
OAQ51942 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau sbwriel yn ein cymunedau?

 
11
OAQ51927 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio ystâd y sector cyhoeddus?

 
12
OAQ51943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid dros y 12 mis nesaf?

 
13
OAQ51931 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio rheoliadau adeiladu i'w gwneud yn ofynnol bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni sy'n cyrraedd targedau lleihau carbon?

 
14
OAQ51944 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch is-ddeddfau rheoli dal pysgod?

 
15
OAQ51923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru?