Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/11/2018 i'w hateb ar 20/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion sy'n rhan o fand B Ysgolion yr 21ain Ganrif?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o'r cytundeb ymadael rhwng y DU a'r UE?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu prosiectau ynni cymunedol hydro gyda’u hardrethi busnes?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu swyddi yn ffatri Schaeffler yn Llanelli?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i lawfeddygon orthopedig?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwrnod y rhuban gwyn mewn perthynas â dileu trais yn erbyn menywod?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir cartrefi o ansawdd da i bobl hŷn?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o oblygiadau gwrthod ceisiadau i gloddio glo yng Nghymru yn y dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gymuned Yemeni Cymru o ganlyniad i'r rhyfel yn Yemen?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses o ddyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ardrethi busnes yng Nghymru?