Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/03/2019 i'w hateb ar 20/03/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ53610 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o fusnesau lleol yng Ngorllewin De Cymru i fanteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial?

 
2
OAQ53615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hystyried wrth ddatblygu cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?

 
3
OAQ53630 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r sector modurol?

 
4
OAQ53618 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r modd o ganfod teithiau y rhai sy'n cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd yn y car fel ffordd o lywio darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol?

 
5
OAQ53627 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision canolbwyntio ar yr economi sylfaenol?

 
6
OAQ53598 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff trosglwyddo i gymdeithas ddigidol ar drigolion yn y canolbarth?

 
7
OAQ53628 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at roi llain galed ar hyd yr A55?

 
8
OAQ53624 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfywio economi Cwm Afan?

 
9
OAQ53607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr economi sylfaenol o ran helpu i fynd i'r afael â thlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
10
OAQ53622 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Sut y bydd y Gweinidog yn gwerthuso gwaith Tasglu'r Cymoedd?

 
11
OAQ53604 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun twf y gogledd o safbwynt parciau busnes?

 
12
OAQ53593 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael â'r Gweinidog Cyllid am bwysigrwydd polisi caffael fel arf economaidd?

 
13
OAQ53613 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?

 
14
OAQ53608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru?

 
15
OAQ53614 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar godi lefelau cyflogau yng Nghymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ53632 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yn Islwyn?

 
2
OAQ53629 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb?

 
3
OAQ53597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Beth yw blaenoriaethau allweddol y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod cyn Brexit?

 
4
OAQ53590 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch dyfodol cymwysterau safonol yn Ewrop?

 
5
OAQ53617 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddyfodol cynlluniau sydd bron â chael eu cwblhau ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid strwythurol yr UE?

 
6
OAQ53605 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Brexit llywodraeth leol yng Nghymru?

 
7
OAQ53619 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn Iwerddon ynghylch effaith unrhyw setliad Brexit ar fasnach gyda Chymru yn y dyfodol?

 
8
OAQ53623 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trefniadau i ddiogelu gwasanaethau iechyd a gofal rhag effaith Brexit heb gytundeb?

 
9
OAQ53626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gapasiti Llywodraeth Cymru i reoli'r broses o ymadael â'r UE heb gytundeb?

 
10
OAQ53592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gyhoeddiad Llywodraeth y DU na fydd unrhyw ffin ffisegol yn Iwerddon pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?

 
11
OAQ53594 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff gadael yr UE ar amaethyddiaeth?

 
12
OAQ53625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd Cymru ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb?

 
13
OAQ53612 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu trefniadau ar gyfer gwiriadau tollau ar nwyddau sy'n dod i mewn i Gymru pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?

 
14
OAQ53595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth amaethyddol ar ôl Brexit?

 
15
OAQ53616 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit?