Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/06/2018 i'w hateb ar 19/06/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Lywodraeth Cymru ar gyfer criced yng Nghymru?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i atal creulondeb i anifeiliaid yn ystod y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
Sut y bydd metro de Cymru yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ail-droseddu?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo byrddau iechyd wrth gynllunio gofal iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar y meini prawf ar gyfer dyfarnu grantiau i gwmnïau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar feddyginiaeth cwsg ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod cyfraniad gwahanol gymunedau yng Nghymru?
Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal y diwydiant hapchwarae rhag targedu plant a phobl ifanc?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wed'i wneud o gronfa cyd-ffyniant arfaethedig Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser yng Ngorllewin De Cymru?