Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/03/2019 i'w hateb ar 19/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd i ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael er mwyn gwella amseroedd aros ysbytai?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu llygredd plastig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ysgol newydd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dai cyngor?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar ffyrdd 'A' yn etholaeth Mynwy?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen y Cymoedd Technoleg yng Nglyn Ebwy?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at Weinidogion Cymru?
Pa gymorth ariannol a roddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i gefnogi gwelliannau diogelwch tân ar adeiladau uchel?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau adeiladu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch perfformiad y sector addysg uwch?