Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/02/2019 i'w hateb ar 19/02/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gau ysgolion yn Abertawe?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno'r credyd cynhwysol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgymeriadau presennol y panel adolygu cynghorau cymuned?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i wella gwasanaethau rheilffyrdd Cymru dros y pum mlynedd nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg ar draws Canol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am heriau y mae trigolion Dwyrain De Cymru yn eu hwynebu wrth gymudo i Gaerdydd i weithio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal colli refeniw o drosglwyddo ail gartrefi o’r gyfundrefn dreth gyngor i’r gyfundrefn dreth annomestig?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio'r cyfryngau cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal salwch yng Ngogledd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella deiet y genedl?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol?
Pa drafodaethau mae’r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith economaidd anghydraddoldeb yn sgil adroddiad Chwarae Teg, Cyflwr y Genedl 2019?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwella diogelwch cymunedol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o adroddiad 'Cludo Cenedlaethau'r Dyfodol' o ran sut y dylai'r sector seilwaith trafnidiaeth ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am bolisi cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth Cymru?