Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/09/2019 i'w hateb ar 18/09/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio addysg?
Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i sicrhau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, yn lleihau gwasanaethau i rai dros 60 oed yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y gall dyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn gefnogi busnesau bach a chanolig?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu ailgylchu yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau trethi ail gartrefi Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyhoeddiad ariannol Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn sgil adolygiad o wariant Llywodraeth y DU?
Beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o sefyllfa gyllidol bresennol Cymru fel y caiff ei nodi yn Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019, a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Preseli Sir Benfro?
Pa gamau sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer tîm gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith adolygiad o wariant diweddar Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pa bwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar bobl ifanc 16-18 oed wrth feddwl am ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hamdden a chwaraeon yn y gymuned?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw ychwanegu'r gallu i siarad Cymraeg fel sgìl dymunol ar fanylebau swyddi ar gyfer swyddi gwag yn Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y sefydliad?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Pa amcanion allweddol y mae'r Gweinidog wedi'u gosod ar gyfer gweithgarwch hyrwyddo Llywodraeth Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn ag argaeledd profion a deunydd adolygu ar gyfer y prawf gyrru theori yn Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cymunedau yn Islwyn yn elwa ar bolisïau gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y consesiwn nofio am ddim diwygiedig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu’r iaith Gymraeg ar draws y byd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i ddewis Carole Cadwalladr fel siaradwraig Gwyl y Gelli'r Cynulliad yng ngŵyl GWLAD - Gŵyl Cymru'r Dyfodol?
A wnaiff y Comisiwn gadarnhau pam nad yw Ei Mawrhydi y Frenhines, yn wahanol i Senedd yr Alban, wedi cael gwahoddiad i'r Cynulliad i nodi dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli?
Pa ymdrech a wnaed i sicrhau bod amrywiaeth eang o siaradwyr yn rhan o ŵyl Gwlad - Gŵyl Cymru'r Dyfodol?