Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/06/2019 i'w hateb ar 18/06/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio?

 
2
OAQ54047 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Cymoedd Technoleg?

 
3
OAQ54038 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y potensial ar gyfer banc cymunedol yng Nghymru?

 
4
OAQ54034 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn?

 
5
OAQ54048 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng ngogledd Cymru?

 
6
OAQ54039 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gryfhau busnesau lleol?

 
7
OAQ54076 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru?

 
8
OAQ54030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn Nwyrain Abertawe yn dilyn y datgniad am yr argyfwng newid hinsawdd?

 
9
OAQ54058 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol i Gymru?

 
10
OAQ54052 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith economaidd y bwriad i gau ffatri beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

 
11
OAQ54042 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr sy'n denantiaid?

 
12
OAQ54082 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru?

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

1
OAQ54081 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru?

 
2
OAQ54035 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
3
OAQ54085 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
4
OAQ54044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
5
OAQ54073 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Pa asesiad mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei wneud o gyflogau merched yn Ynys Môn?

 
6
OAQ54086 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth?