Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/10/2018 i'w hateb ar 17/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod lles disgyblion yn cael gymaint o sylw â chyrhaeddiad yn ein hysgolion uwchradd?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi lles disgyblion ysgol benywaidd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau y mae eu hangen ar fusnesau i dyfu economi Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer cyflogau athrawon ar ôl i bwerau yn y maes hwn gael eu datganoli?
A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y rôl y bydd sefydliadau addysgol yn ei chwarae os caiff yr oedran pleidleisio yng Nghymru ei ostwng i 16?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau boddhad cwsmeriaid Cyllid Myfyrwyr Cymru?
Sut y mae rhaglen addysg Llywodraeth Cymru yn datblygu sgiliau mewn arloesedd a thechnoleg newydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gymorth sydd ar gael i helpu llywodraethwyr ysgol yn eu rolau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dysgu oedolion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amodau gwaith ar gyfer athrawon?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth o addysg ar gyfer disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o safonau addysgol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ledled Canol De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o addysg i oedolion?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i ddod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Vertex Pharmaceuticals am y cyffur ffibrosis systig Orkambi?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i atal hunan-niweidio?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am broffylacsis cyn-gysylltiad ac atal HIV?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan bobl sydd ag afiechyd meddwl yng ngogledd Cymru fynediad at wasanaethau eirioli a chymorth annibynnol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o ddeintyddiaeth adferol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn Islwyn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros am osod pengliniau a chluniau newydd yng ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwasanaethau sydd ar gael i fenywod sy'n mynd drwy'r menopos?
Pa gamau y mae'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y gaeaf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad menywod i wasanaethau erthylu'r GIG yng Nghaerdydd?
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu'r weithdrefn ar gyfer cwynion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau dyddiad agor ar gyfer y ganolfan gofal critigol yn Nwyrain De Cymru?