Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/09/2019 i'w hateb ar 17/09/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54303 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

 
2
OAQ54326 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU?

 
3
OAQ54294 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar yr M4 yn ardal Abertawe?

 
4
OAQ54347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen 'Operation Yellowhammer'?

 
5
OAQ54316 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch lefelau nitrogen deuocsid ar hyd coridor yr A470 yng Nghanol De Cymru?

 
6
OAQ54313 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru?

 
7
OAQ54350 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa gamau sydd ar waith i atal treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi rhag cael ei hosgoi?

 
8
OAQ54351 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y penderfyniad i ddod a’r cynllun nofio am ddim presennol i ben?

 
9
OAQ54339 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd Brexit heb gytundeb yn ei chael ar brifysgolion Cymru?

 
10
OAQ54310 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae'n eu cymryd i gefnogi cartrefi gofal yng ngogledd Cymru?

 
11
OAQ54329 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ateb y galw am dai i'r dyfodol?

 
12
OAQ54352 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2019

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar y trydydd sector yng Nghymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ54312 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gais diweddar Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys i ymyrryd mewn camau cyfreithiol yng nghyswllt addoediad?

 
2
OAQ54325 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i gyd-aelodau Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau cerbydau?

 
3
OAQ54308 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn achos addoediad yr Uchel Lys, cyn apêl y Goruchaf Lys?

 
4
OAQ54307 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gost i'r trethdalwr yn sgil Llywodraeth Cymru'n ymuno â'r achos aflwyddiannus yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag addoediad?

 
5
OAQ54314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol pwerau datganoledig yng Nghymru?