Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/07/2019 i'w hateb ar 17/07/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ba gymorth sydd ar gael i brosiectau ynni dwr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gymuned ffermio yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pryfed peillio?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y system taliadau fferm newydd arfaethedig yn ei chael ar yr economi wledig?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi ffermwyr Cymru yn y deuddeg mis nesaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru?
Oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu deddfwriaeth bridio cŵn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltu â chymunedau i warchod bioamrywiaeth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision Diwrnod Aer Glân i genedlaethau iau yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i warchod bioamrywiaeth yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu ei berfformiad er mwyn osgoi camgymeriadau'r gorffennol?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol yn dilyn lansio'i strategaeth pum mlynedd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr achosion o danau gwyllt?
Pa newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w pholisïau tai a chynllunio o ganlyniad i ddatgan argyfwng hinsawdd?
Sut y bydd y Gweinidog yn ymateb i ddatganiadau o blaid annibyniaeth Cymru sy'n dod i'r amlwg gan rai cynghorau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau anstatudol gan awdurdodau lleol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y byddai dileu'r gallu i landlordiaid weithredu troi allan heb fai, yn ei chael ar y sector rhentu?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith Safon Ansawdd Tai Cymru ar eiddo yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i fynd i'r afael â'r broblem cysgu allan yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru?