Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/07/2018 i'w hateb ar 17/07/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau technoleg yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thagfeydd traffig yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadawladr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cartref gyda'r nos?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd mannau chwarae plant?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud Cymru yn genedl sy'n gyfeillgar i bobl â dementia?
Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru?
Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus i'r M4 o amgylch Casnewydd gyhoeddi ei ganfyddiadau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Ffyniant i Bawb yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc?
Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i bennu terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya mewn ardaloedd trefol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?