Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/04/2018 i'w hateb ar 17/04/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gorsaf bws yng nghanol dinas Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y grant gwisg ysgol?
Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu ffermwyr a pherchnogion anfeiliaid yr effeithir arnynt gan y prinder presennol mewn porthiant yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar atgyweirio cefnffyrdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â hwyluso'r broses o adeiladu rhagor o garchardai yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni tai yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i ganfyddiadau adroddiad blynyddol mwyaf diweddar Estyn bod dwy ran o dair o ysgolion cynradd yn dangos diffygion pwysig mewn safonau TGCh?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cyd-ymatebwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd osgoi rhwng Caernarfon a Bontnewydd?