Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/01/2018 i'w hateb ar 17/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio anifeiliaid byw mewn syrcasau teithiol yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leihau faint o ddeunydd pacio plastig a gaiff ei ddefnyddio?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les anifeiliaid yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â risg llifogydd yng ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â datblygu cynllun llifogydd y Rhath yng Nghaerdydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y tanau mewn safleoedd gwaredu gwastraff yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o brosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am barhad arian cyfalaf o dan gynllun Glastir?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am ddatblygu defnydd diwydiannol amaethyddiaeth fanwl?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gwmpas o fewn y broses gynllunio i gymryd camau yn erbyn eiddo gwag yng nghanol trefi?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygio lles yn Nhorfaen?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cyflymu cynlluniau tai yn Nwyrain De Cymru i roi ystyriaeth i ddileu tollau pontydd Hafren?
Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol anstatudol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y byrddau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amserlen ar gyfer adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol yn Sir Benfro?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gymdeithasau tai yn Nhorfaen wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag arweinwyr llywodraeth leol yn dilyn cyhoeddi setliad llywodraeth leol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sefyllfa ddiweddaraf yng Nghyngor Tref Biwmares yn dilyn ymddiswyddiad hanner ei aelodau?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch tegwch y fformiwla ariannu ar gyfer 22 o gynghorau Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gallai Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) wella pa mor agored a thryloyw yw prosesau cyrff cyhoeddus yng Nghymru o ymdrin â chwynion? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu rôl y trydydd sector yn y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol yn Abertawe?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymgyrchoedd i leihau nifer yr ymosodiadau gan gŵn ar weithwyr post? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.