Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/10/2019 i'w hateb ar 16/10/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ54552 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ddyraniadau cyllideb ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu rhoi i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sydd â diagnosis o nam meddyliol difrifol fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

 
2
OAQ54525 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth baratoi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf?

 
3
OAQ54543 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
4
OAQ54553 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglyn a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod perchnogion ail gartrefi yn talu treth gyngor?

 
5
OAQ54533 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa mor effeithiol y mae rhyddhad ardrethi busnes wedi bod o ran helpu busnesau yng Nghymru?

 
6
OAQ54524 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasglu trethi datganoledig?

 
7
OAQ54547 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?

 
8
OAQ54545 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl 16-18 oed wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

 
9
OAQ54539 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i drechu tlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

 
10
OAQ54511 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried amcanion polisi ehangach wrth bennu cyllidebau rhaglenni i'r dyfodol?

 
11
OAQ54516 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu awdurdodau lleol?

 
12
OAQ54507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth gyllideb Llywodraeth Cymru?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ54517 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i'r Byd?

 
2
OAQ54549 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Islwyn fel cyrchfan i dwristiaid?

 
3
OAQ54541 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth ddiwydiannol yng Nghaerffili?

 
4
OAQ54535 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ymgysylltu â sefydliadau yn Ogwr ynghylch blaenoriaethau masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru?

 
5
OAQ54551 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg?

 
6
OAQ54522 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy?

 
7
OAQ54540 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
8
OAQ54526 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ran y mae Chwaraeon Cymru yn ei chwarae o ran cyflawni amcanion y Gronfa Iach ac Engïol?

 
9
OAQ54528 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Sut y bydd barn y gymuned Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?

 
10
OAQ54546 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Cymru o blaid Affrica?

 
11
OAQ54519 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag aneddiadau Israelaidd yn y Lan Orllewinol?

 
12
OAQ54530 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r diwydiant twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ54555 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau pensiwn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru?

 
2
OAQ54542 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

A wnaiff y Comisiwn egluro sut y mae'r arian a ddyrennir i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyllideb 2019-20 yn cael ei ddyrannu?

 
3
OAQ54527 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Pa ddefnydd sydd wedi'i gofnodi o bwyntiau gwefru cerbydau trydan y Cynulliad?

 
4
OAQ54523 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2019

Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni ei rwymedigaethau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?