Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/10/2018 i'w hateb ar 16/10/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n monitro effeithiolrwydd gwariant gan awdurdodau lleol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at drethi ail gartrefi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith caffael Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl cyflog byw go iawn?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiwygio'r cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y cynigion yn ymgynghoriad Brexit a'n Tir o fudd i ffermwyr Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r diwydiant manwerthu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn perthynas ag Ysgolion yr 21ain Ganrif?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i addasu tai ar gyfer pobl hŷn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r newidiadau i'r ffin rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau brys yng Ngorllewin De Cymru?