Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/05/2018 i'w hateb ar 16/05/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gamau i wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am yr adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr trais domestig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymestyn y ddarpariaeth o fand eang yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am osod band eang yng ngorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn Nhŷ Ddewi?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu seilwaith digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarparu band eang cyflym iawn mewn cymunedau gwledig?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth o fand eang yn Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am argaeledd fisas ar gyfer gweithwyr mudol mewn sectorau allweddol economi Cymru pan fydd y DU yn gadael yr UE?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am seilwaith band eang yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn genedl gwaith teg?
Faint o'r £1. 1 miliwn a ddyrannwyd i fynd i'r afael â thlodi ac urddas misglwyf y disgwylir y bydd yn cael ei ddyrannu i atebion cynaliadwy?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa cyd-ffyniant?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r broses ar gyfer cyfrifo swm yr arian a ddyrannwyd i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi digartrefedd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r dyraniad o gyllid Llywodraeth Cymru i undebau credyd yn dilyn y diweddariad diweddar i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi i arbed?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â chronfa cyd-ffyniant y Deyrnas Gyfunol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf dros y tair blynedd nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith yn Islwyn?
Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol ynghylch adennill treth gyngor nas talwyd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyrannu gwariant yn y gyllideb er mwyn datblygu addysg feddygol ym Mangor?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer treth ar dir gwag yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyllideb Cymru yn darparu gwerth am arian?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid yn y gyllideb?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu prosiectau buddsoddi seilwaith yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gaffael yn y sector gyhoeddus?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni amcan pedwar o Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-211 y Cynulliad?
A wnaiff y Comisiynydd egluro pam mae nifer y digwyddiadau y gall Aelodau'r Cynulliad eu noddi wedi'i gyfyngu i 10 y flwyddyn?