Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/01/2018 i'w hateb ar 16/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51560 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru?

 
2
OAQ51581 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Sir Fynwy?

 
3
OAQ51576 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y gall byrddau iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd effeithiol a chydgysylltiedig?

 
4
OAQ51582 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfathrebu â phobl sy’n aros am wasanaeth band eang cyflym iawn?

 
5
OAQ51579 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru wella sicrwydd ariannol ar gyfer pobl yng Nghymru?

 
6
OAQ51571 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yng Nghymru?

 
7
OAQ51558 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o dir ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru i ateb y galw ar gyfer datblygiadau tai newydd?

 
8
OAQ51549 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
9
OAQ51580 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau canolfannau dydd ar gyfer yr henoed yng Nghymru?

 
10
OAQ51573 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gyfran o'r arian cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a gaiff ei ymrwymo i ffordd liniaru'r M4?

 
11
OAQ51559 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru?

 
12
OAQ51577 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas ag amcanion y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty gan Lywodraeth Cymru?

 
13
OAQ51541 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng nghanolbarth Cymru?

 
14
OAQ51553 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru?

 
15
OAQ51578 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd gwasanaethau bysiau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?