Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/01/2018 i'w hateb ar 16/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yn Sir Fynwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y gall byrddau iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd effeithiol a chydgysylltiedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfathrebu â phobl sy’n aros am wasanaeth band eang cyflym iawn?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru wella sicrwydd ariannol ar gyfer pobl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o dir ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru i ateb y galw ar gyfer datblygiadau tai newydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau canolfannau dydd ar gyfer yr henoed yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gyfran o'r arian cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a gaiff ei ymrwymo i ffordd liniaru'r M4?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas ag amcanion y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd gwasanaethau bysiau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?