Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/11/2017 i'w hateb ar 15/11/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1
OAQ51272 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau?

 
2
OAQ51281 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau trawma difrifol yn parhau i fod ar gael i bob claf ledled Cymru yn dilyn y cyhoeddiad am leoliad y ganolfan trawma difrifol newydd?

 
3
OAQ51275 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
4
OAQ51278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?

 
5
OAQ51282 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gwasanaethir ardaloedd difreintiedig ledled Cymru gan bractisau meddygon teulu ag adnoddau llawn?

 
6
OAQ51274 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynnwys ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf?

 
7
OAQ51258 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal brys yng Nghymru?

 
8
OAQ51277 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar iechyd yng Nghymru?

 
9
OAQ51265 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis cynnar o ganser yng Nghwm Cynon?

 
10
OAQ51286 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i'r GIG yng Nghymru?

 
11
OAQ51279 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o'r oriau a weithiwyd, gan gynnwys gwerth yr oriau hynny, gan wirfoddolwyr cynghorau iechyd cymuned?

 
12
OAQ51294 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd newidiadau yn rheolau Cyllid a Thollau EM yn ei chael ar ofal y tu allan i oriau gan feddygon teulu yn Llanelli?

 
13
OAQ51287 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddefnyddio gwestai cleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

 
14
OAQ51284 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ51292 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am delerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi?

 
2
OAQ51262 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cau ysgolion gwledig?

 
3
OAQ51263 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amodau gwaith a chyflog staff ysgol?

 
4
OAQ51259 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y cynllun eCadets yn ysgolion Cymru?

 
5
OAQ51285 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog athrawon dan hyfforddiant i astudio pynciau blaenoriaeth?

 
6
OAQ51276 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ariannu hyfforddiant statws lefel 5 ar gyfer cynorthwywyr addysgu?

 
7
OAQ51270 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt?

 
8
OAQ51266 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am recriwtio athrawon yng Nghymru?

 
9
OAQ51257 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

Pa sylwadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr?

 
10
OAQ51267 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddod yn athrawon yn Islwyn?

 
11
OAQ51290 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer prifysgolion?

 
12
OAQ51289 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch Papur Gwyn y Gymraeg?