Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/05/2019 i'w hateb ar 15/05/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r gostyngiad a ragwelir mewn incwm ffermydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad y Cenhedloedd Unedig sy'n datgan bod un filiwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r bygythiad yn sgil dirywiad mewn rhywogaethau?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bioamrywiaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei rhaglenni gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ers dechrau datganoli?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau hyfywedd ffermio yng Nghymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan gymunedau lleol lais yn y system gynllunio?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu?
A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ail-gyflunio llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a yw polisïau tai gwledig Llywodraeth Cymru yn addas i'r diben?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'r adolygiad annibynnol o dai?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwaith teg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cynhwysiant ariannol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol Llywodraeth Cymru ar ddiwygio lesddeiliadaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y galw am dai fforddiadwy?