Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/01/2019 i'w hateb ar 15/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc drwy gydol tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fodloni'r angen am dai fforddiadwy?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn Islwyn?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffordd liniaru'r M4 wedi newid ers iddo ddechrau yn y rôl?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Flwyddyn Darganfod 2019?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio'r stryd fawr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd ar gyfer trigolion Dwyfor Meirionnydd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu ymarfer meddygol yng Nghymru?
Pa gynnydd y mae tasglu'r cymoedd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael ag amddifadedd?