Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/05/2019 i'w hateb ar 14/05/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu ynni llanw yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl hemoffilig yng Nghymru, a'u teuluoedd?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn ei datganiad am yr argyfwng o ran yr hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i annog mwy o ymgysylltiad â democratiaeth leol?
Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i adeiladu ar lwyddiant cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu system gyfan i wella ein system fwyd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu gradd-brentisiaethau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw'r modelau ariannu presennol ar gyfer prosiectau seilwaith cyhoeddus o ran denu darpar fuddsoddwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llygredd amaethyddol a diwygio'r rheoliadau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am liniaru llifogydd yn Nyffryn Conwy?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu'r gwasanaeth prawf yng Nghymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yn ystod y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau cynghori'n cael eu cefnogi'n llawn am weddill y pumed Cynulliad?
Pa ddadansoddiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llymder ar gydraddoldeb yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i farn Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am drais a cham-drin domestig yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwella bywydau pobl yng Nghymru?