Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/03/2018 i'w hateb ar 14/03/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ51882 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru?

 
2
OAQ51892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sepsis ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol?

 
3
OAQ51901 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu cynlluniau peilot Buurtzorg ar gyfer gofal nyrsio yn y gymdogaeth yng Nghymru?

 
4
OAQ51899 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru?

 
5
OAQ51906 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drosglwyddo cleifion y GIG at y lleoliad gofal mwyaf priodol?

 
6
OAQ51885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys?

 
7
OAQ51902 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Nhanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OAQ51880 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i'r gwasanaeth iechyd yn Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?

 
9
OAQ51895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran canolfan rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol yn ne Cymru?

 
10
OAQ51907 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant ei hymdrechion i recriwtio mwy o feddygon i Gymru?

 
11
OAQ51897 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau endometriosis i gleifion yng Nghymru?

 
12
OAQ51898 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion iechyd personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr?

 
13
OAQ51881 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig yng Nghymru?

 
14
OAQ51886 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngharchardai Cymru?

 
15
OAQ51878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ51888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?

 
2
OAQ51883 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu deddfwriaeth llygredd aer?

 
3
OAQ51905 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi ynglŷn â newid y gyfraith yng Nghymru i ganiatáu i fenywod gymryd tabledi erthylu yn eu cartrefi?

 
4
OAQ51903 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau?

 
5
OAQ51904 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â sicrhau dinasyddiaeth Ewropeaidd i bobl yng Nghymru yn dilyn Brexit?

 
6
OAQ51908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cytundeb drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar Gymru?

 
7
OAQ51909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2018

Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i chontract economaidd newydd?