Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/12/2017 i'w hateb ar 13/12/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ51455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau agored i niwed yng Nghymru fynediad at raglenni cyflogadwyedd?

 
2
OAQ51459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gyllid Myfyrwyr Cymru?

 
3
OAQ51471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd y cod anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi?

 
4
OAQ51462 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am blant sydd yn cael eu haddysg gartref?

 
5
OAQ51466 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu cysylltiadau cryf rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru?

 
6
OAQ51477 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gyfrannu tuag at ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 
7
OAQ51456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y bobl ifanc sy'n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru?

 
8
OAQ51469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i hyrwyddo swyddi llywodraethwyr ysgol a llenwi swyddi gwag llywodraethwyr o fewn y system addysg yng Nghymru?

 
9
OAQ51453 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro?

 
10
OAQ51443 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am arolygiadau Estyn yng Nghymru?

 
11
OAQ51483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar addysg drydyddol yng Nghymru?

 
12
OAQ51448 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Pa gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i brifysgolion Cymru i'w galluogi i gefnogi'r sector busnes yng Nghymru?

 
13
OAQ51457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?

 
14
OAQ51463 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu myfyrwyr yng Nghymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ51478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?

 
2
OAQ51465 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio mewnblaniadau rhwyll yng Nghymru?

 
3
OAQ51479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed?

 
4
OAQ51480 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi meddygon teulu yng Ngogledd Cymru?

 
5
OAQ51458 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
6
OAQ51451 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o bobl yng Nghymru yn dioddef strôc?

 
7
OAQ51452 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog symud adnoddau o ofal eilaidd i ofal iechyd sylfaenol?

 
8
OAQ51485 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sicrhau bod gofal meddygon teulu yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif?

 
9
OAQ51481 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yng Ngogledd Cymru?

 
10
OAQ51470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae cyfarwyddeb oriau gwaith yr Undeb Ewropeaidd yn gymwys i staff y GIG?

 
11
OAQ51467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a gyhoeddwyd ynghylch trin prolaps organau'r pelfis ac anymataliaeth?

 
12
OAQ51473 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn ne-ddwyrain Cymru?

 
13
OAQ51472 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ysbytai ar gyfer trigolion Powys?

 
14
OAQ51444 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i atal diabetes math 2 yng Nghymru?

 
15
OAQ51450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymhlethdodau a achosir gan fewnblaniadau rhwyll yng Nghymru?