Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/11/2018 i'w hateb ar 13/11/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ52895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn athrawon?

 
2
OAQ52931 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cofrestru ail-gartrefi fel eiddo busnes ar dderbyniadau treth cyngor?

 
3
OAQ52928 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
4
OAQ52932 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai?

 
5
OAQ52934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?

 
6
OAQ52901 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r argymhellion yn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol trefi yng Nghymru?

 
7
OAQ52891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg?

 
8
OAQ52913 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol?

 
9
OAQ52927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti TG o fewn y GIG yng Nghymru?

 
10
OAQ52926 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnfuddsoddiad i Orllewin De Cymru?

 
11
OAQ52907 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cynhwysiant digidol mewn gofal iechyd yn Islwyn?

 
12
OAQ52930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd?

 
13
OAQ52900 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau ailgylchu yng Nghymru?

 
14
OAQ52933 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?

 
15
OAQ52929 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyfraddau treth incwm yng Nghymru?