Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/06/2018 i'w hateb ar 13/06/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i wella'r gefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
Pa egwyddorion sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad, 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wella diogelwch cymunedol yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddata yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: a fact file'?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad trigolion yn Nhrefynwy at wasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl llywodraeth leol yn y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu yn ne Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio cronfeydd awdurdodau lleol?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth i garcharorion o Gymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymatebion i'r papur gwyrdd, 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei gyflawni drwy ddiwygio llywodraethiant awdurdodau tân ac achub?
Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn goruchwylio'r gwaith o archwilio, arolygu a rheoleiddio cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer undebau credyd i gynilwyr ifanc?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed gan dasglu'r cymoedd ar effaith awtomeiddio?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch cymunedol yn Sir Benfro?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer ynni'r llanw yng Ngogledd Cymru?
Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin i oresgyn y broblem pryfed yn Llanelli?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi amaethyddiaeth ym Mynwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd arfordirol yng Ngorllewin Clwyd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i ddiweddaru codau ymarfer lles anifeiliaid presennol yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun gweithredu bwyd a diod i ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu grwpiau o bobl sy'n agored i niwed i gynyddu effeithlonrwydd ynni eu cartrefi?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda sefydliadau amgylcheddol i ddiogelu a gwella yr amgylchedd naturiol?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau tlodi tanwydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant ffermio yn Sir Benfro?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiolrwydd y system gynllunio o ran amddiffyn a datblygu'r iaith Gymraeg?
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella safonau lles anifeiliaid mewn amaethyddiaeth yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ymgyrchoedd i gyflwyno ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus ledled Cymru?