Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/03/2019 i'w hateb ar 13/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau cynghorau yng Ngorllewin De Cymru i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall rhieni fforddio costau sy'n gysylltiedig ag addysg eu plant?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth i ddisgyblion ar y spectrwm awtistaidd mewn ysgolion?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran sicrhau unffurfedd wrth bennu dyddiau HMS ar draws ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor yn ysgolion Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau ysgolion ym Môn?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysau ariannol ar brifysgolion Cymru?
Sut y mae adran y Gweinidog yn cyfrannu at y thema allweddol 'uchelgeisiol ac yn dysgu', fel sydd wedi'i nodi yn Ffyniant i Bawb – y Strategaeth Genedlaethol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod gan ysgolion gyllid digonol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg y cyfnod sylfaen?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gweithgareddau allgyrsiol mewn ysgolion?
Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod ail don rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif yn darparu cyfleusterau sydd o fudd i'r gymuned ehangach yn Islwyn?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wardiau cymysg mewn ysbytai?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo gordewrdra ymhlith plant a phobl ifanc ?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweinidogion eraill y llywodraeth ynghylch rôl teithio llesol o ran hybu iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau bwydo ar y fron?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddefnyddio arfau diagnostig i asesu glowyr am arwyddion o niwmoconiosis?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal salwch yn ne Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl â pharlys yr ymennydd?
Pryd y bydd cynnyrch misglwyf yn cael eu cynnig am ddim i gleifion ledled y GIG?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y niferoedd sydd wedi manteisio ar frechiadau plant?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd meddwl yn y Gogledd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o ganser yr ofari?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc ag awstistiaeth yng Nghaerffili?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y broses gwynion yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n anfodlon â'r driniaeth a gawsant gan y GIG?