Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/03/2018 i'w hateb ar 13/03/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51913 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r nifer sy'n astudio pynciau STEM yng Nghymru?

 
2
OAQ51879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pellach i Gymru yn sgil trosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn dilyn Brexit?

 
3
OAQ51884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision economaidd sy'n deillio o reilffyrdd treftadaeth i Gymru?

 
4
OAQ51890 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y papur gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol?

 
5
OAQ51918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau iechyd i fenywod?

 
6
OAQ51912 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol?

 
7
OAQ51916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Rwydwaith Mamolaeth Cymru?

 
8
OAQ51891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin ag iechyd gwael yng Nghymru?

 
9
OAQ51910 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dagfeydd traffig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
10
OAQ51896 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cyflymu Cymru yng ngorllewin Cymru?

 
11
OAQ51887 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw?

 
12
OAQ51917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y pecyn cymorth sydd ar y gweill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i'w ddefnyddio gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru?

 
13
OAQ51894 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A oes gan lobïwyr fynediad at aelodau o Lywodraeth Cymru?

 
14
OAQ51889 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd gydag arweinwyr y sector technoleg yn ystod ei ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau?

 
15
OAQ51911 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar hygyrchedd ar gyfer cadeiriau olwyn mewn ysgolion yng Nghymru?