Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/02/2019 i'w hateb ar 13/02/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ53403 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddosddi mewn trafnidiaeth ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni?

 
2
OAQ53412 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau cynhenid sydd am ehangu a thyfu yn gallu gwneud hynny o fewn eu hardal leol?

 
3
OAQ53407 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontract economaidd newydd Llywodraeth Cymru i fusnesau?

 
4
OAQ53405 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru?

 
5
OAQ53416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd?

 
6
OAQ53417 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Sut y bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus o fudd i'r Rhondda?

 
7
OAQ53415 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili?

 
8
OAQ53413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses arfarnu ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd?

 
9
OAQ53411 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor?

 
10
OAQ53381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yng Nghanol De Cymru?

 
11
OAQ53393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig?

 
12
OAQ53390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen 5G?

 
13
OAQ53391 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu asesu llwyddiant bargen twf y gogledd?

 
14
OAQ53396 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith a gaiff tueddiadau cyfredol mewn gwerthiannau manwerthu, ar economi ehangach Cymru?

 
15
OAQ53389 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddara o ran creu system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol yng Ngorllewin De Cymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ53386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar Sir Benfro?

 
2
OAQ53392 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Porthladd Caergybi pe bai Brexit heb fargen yn digwydd?

 
3
OAQ53399 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd?

 
4
OAQ53418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yng nghyswllt cydweithredu â gwledydd eraill ar ôl Brexit?

 
5
OAQ53394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'?

 
6
OAQ53400 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit?

 
7
OAQ53410 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y brys o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Erthygl 50 y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2019?

 
8
OAQ53401 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cytundeb rhyng-lywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018?

 
9
OAQ53380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo i Gymru?

 
10
OAQ53398 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddogion cyfatebol yn y DU o ran effaith Brexit heb fargen, ar economi Cymru ?

 
11
OAQ53404 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru am aliniad deinamig o ran rheolau cymorth gwladol yr UE?

 
12
OAQ53384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y cyllid ar gyfer y sector addysg bellach ar ôl Brexit?

 
13
OAQ53406 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau bod Cymru yn manteisio cymaint â phosibl ar gytundebau masnach y dyfodol ar ôl Brexit?

 
14
OAQ53409 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yngylch gwarchod hawliau pobl ifanc Cymru i deithio neu weithio ar draws Ewrop yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd?

 
15
OAQ53388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar lywodreth leol yng Nghymru?