Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/12/2017 i'w hateb ar 12/12/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Pa fesurau sydd ar waith i graffu ar y cynlluniau y mae awdurdodau lleol yn eu cyflwyno o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013?

 
2
OAQ51454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OAQ51476 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl yn y gweithle yng Nghymru?

 
4
OAQ51484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru?

 
5
OAQ51491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun cyflawni ar gyfer Ein Cymoedd, Ein dyfodol?

 
6
OAQ51486 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer datganoli pwerau dros ynni o dan Ddeddf Cymru 2017?

 
7
OAQ51445 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr hyn sy’n gyfystyr â siaradwr Cymraeg yn y cynlluniau i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 
8
OAQ51475 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Pryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddyddiad cychwyn adeiladu cynllun ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon?

 
9
OAQ51464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae cod y Gweinidogion yn darparu atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd aelodau'r cabinet?

 
10
OAQ51461 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyfleoedd gwaith i drigolion Cwm Cynon?

 
11
OAQ51487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella symudedd cymdeithasol yng Nghymru?

 
12
OAQ51490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darpru adnoddau ar gyfer newid trawsnewidiol a nodwyd yn y sector cyhoeddus?

 
13
OAQ51488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn ddiweddar am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol?

 
14
OAQ51482 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
15
OAQ51460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ariannol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?