Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/11/2019 i'w hateb ar 12/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau ymarferol mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd yng Ngogledd Cymru er mwyn ateb yr argyfwng hinsawdd?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith cytundeb fasnach rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cwangos yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran y gweithlu yng Nghymru sy'n ennill y cyflog byw neu uwch?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i leihau tlodi plant?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cydnerthedd yn y sector iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y ddogfen Ein Dull Gweithredu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau gofal sylfaenol yn Ynys Môn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit, yn dilyn y cytundeb a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ym mis Hydref 2019?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella perfformiad y GIG yng ngogledd Cymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r broses o weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddiwrnod y rhuban gwyn?