Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/06/2019 i'w hateb ar 12/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth â gwasanaethau allweddol ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â seilwaith trafnidiaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gefnogaeth a ddarparwyd yn dilyn y cyhoeddiad i gau ffatri Rehau yn Amlwch?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd economaidd busnesau bach yng nghymunedau gwledig Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd?
A wnaiff y gweinidog ddatganiad am wariant cyhoeddus ar rwydwaith trenau Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda phrifysgolion yng Nghymru i ddatblygu cyflogaeth yn sectorau cyflog uchel a thwf yr economi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i'r seilwaith ffyrdd yng nganolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch dosraniad arwyddion ar gefnffyrdd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr M4 o ran datblygu economi Gorllewin De Cymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Brexit ar strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gefnogaeth cronfeydd strwythurol yr UE i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ar y cwestiwn i'w ofyn pe bai ail refferendwm yn cael ei chynnal ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r mesurau paratoadol ychwanegol o ran dim bargen, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn 31 Hydref 2019?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â phleidlais y bobl?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y wybodaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei rhannu â Llywodraeth Cymru wrth baratoi at Brexit heb gytundeb.
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo yng Nghymru?
Pa asesidad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y byddai gadael yr UE yn ei chael ar y gallu i recriwtio deintyddion?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn trafodaethau ar Brexit rhwng llywodraethau’r DU?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chyd-aelodau yn y cabinet am y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol?