Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/06/2018 i'w hateb ar 12/06/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Arla yn dilyn ei benderfyniad i gau'r safle yn Llandyrnog?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i drin clefydau anadlol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o saethu ar y tir y mae'n ei reoli.
Pa gamau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghaerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan glymog Japan?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd wrth ddatblygu ei chynlluniau trafnidiaeth?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU am Brexit?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai newydd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion iechyd meddwl yng Nghaerffili?
Sut y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gefnogi'r broses o leihau digartrefedd?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddiweddaru rheoliadau cynllunio mewn perthynas ag unedau dofednod dwys?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau effaith tlodi ar fywydau dinasyddion?