Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/02/2019 i'w hateb ar 12/02/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc?
Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud o’r effaith y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn ei chael ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?
Pa gynnydd a wnaed o ran sefydlu dull priodol ar gyfer datrys anghydfodau rhwng llywodraethau'r DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun grantiau trydydd sector Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda'r trydydd sector a chymunedau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i deuluoedd plant byddar?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion cynradd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella perfformiad ysgolion ar draws Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newidiadau i gynlluniau rhyddhad adrethi busnes?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cymorth i gyn-filwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwybrau bysiau i drigolion yng Nghanol De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar waith y Comisiwn Bevan i brif ffrydio arloesi mewn gofal iechyd ?