Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/07/2018 i'w hateb ar 11/07/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli perthi yn yr haf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ynni'r môr yng ngogledd Cymru?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â lleihau tlodi tanwydd ar draws Gorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ffyrdd o warchod anifeiliaid anwes?
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw bae Abertawe, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog a chefnogi cynlluniau cynhyrchu ynni yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynnig i gyfuno ac adolygu is-ddeddfwriaeth dosbarthiadau defnydd a datblygu cyffredinol a ganiateir?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi ffermwyr yng ngorllewin Cymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cynigion amgen ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru?
Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran mynd i'r afael â llygredd aer ym Mhort Talbot o fewn etholaeth Aberafan?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli gwastraff mewn ardaloedd hamdden awyr agored?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gall y system gynllunio gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru?
Pa darged sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer twf amaeth organig?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i bobl ddigartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo diwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol?
Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i dreialu dulliau pleidleisio newydd?
Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid llywodraeth leol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gyfarfod diweddaraf gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i leihau costau llywodraeth leol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymwreiddio'r gwaith partneriaeth sy'n cael ei wneud o fewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gydweithio rhwng awdurdodau lleol yn ne-orllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cydweithio agosach rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu lefel y ffioedd a godir gan awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau tân yng Nghymru?