Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/07/2018 i'w hateb ar 10/07/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithgareddau hamdden awyr agored yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymhwystra i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiadau llain las yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr asthma?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i blant ag epilepsi?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau treftadaeth ar Ynys Môn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl Llywodraeth Cymru yn y negodiadau ar Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi datblygu rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae codiadau cyflog ar gyfer gweithwyr awdurdodau lleol yn cael eu rhannu ymhlith y gweithlu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd yr M4 i dde Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i bobl â phroblemau iechyd meddwl?