Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/10/2019 i'w hateb ar 09/10/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OAQ54464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio?

 
2
OAQ54459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli argaeau yng nghanolbarth Cymru?

 
3
OAQ54489 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cadwraeth tir ffermio yng Nghymru?

 
4
OAQ54478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermio?

 
5
OAQ54492 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Sut mae'r argyfwng o ran yr hinsawdd, a gafodd ei ddatgan ym mis Ebrill 2019, yn ail-lunio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd Cymru?

 
6
OAQ54482 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â materion ynni sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft 2020-2040?

 
7
OAQ54476 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru?

 
8
OAQ54495 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch mynd i'r afael â llygredd aer ar hyd yr A470?

 
9
OAQ54460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau lleol i chwarae mwy o ran mewn prosiectau ynni?

 
10
OAQ54499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ail-blannu coed yng Nghwm Afan ar ôl cwympo coed yn yr ardal?

 
11
OAQ54452 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar blannu coed?

 
12
OAQ54479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon ar gyfer bridio cŵn yng Nghymru?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OAQ54481 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2020-21?

 
2
OAQ54494 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r arbedion ariannol sydd wedi'u colli o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i gynigion i leihau nifer y cynghorau yng Nghymru?

 
3
OAQ54483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwasanaethau archwilio a rheoleiddio awdurdodau lleol?

 
4
OAQ54488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Sut mae polisi cynllunio ar gyfer tai newydd yn ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
5
OAQ54490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau diogelwch tân ar gyfadeiladau preswyl yng Nghanol De Cymru?

 
6
OAQ54498 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwella cydweithio rhwng y sectorau tai ac iechyd?

 
7
OAQ54471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau amodau gwaith priodol mewn cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaethau ar ran llywodraeth leol?

 
8
OAQ54491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal yng ngoleuni'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 19 Medi 2019 ynghylch diogelwch adeiladau?

 
9
OAQ54501 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau anstatudol a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol?

 
10
OAQ54458 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?

 
11
OAQ54484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o adfer paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 yn dilyn ei ddatgymhwyso dros dro?

 
12
OAQ54474 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y cynhelir archwiliadau digonol o'r gwasanaethau trwyddedu a ddarperir gan awdurdodau lleol?