Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/07/2019 i'w hateb ar 09/07/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd i dalu am wisgoedd ysgol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad economaidd Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r cynllun Arbed yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y byddai banc cymunedol i Gymru o fudd i gymunedau yng Nghaerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni cymunedau cydnerth yn y de-ddwyrain?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staffio yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud yr amgylchedd trefol yn wyrddach yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd sy'n datblygu?