Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/05/2018 i'w hateb ar 09/05/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

1
OAQ52116 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am allanoli gwasanaethau yn y sector gyhoeddus?

 
2
OAQ52127 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus?

 
3
OAQ52140 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018?

 
4
OAQ52115 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adborth a gafwyd gan lywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad y papur gwyrdd, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl?

 
5
OAQ52138 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni nodau llesiant drwy wasanaethau cyhoeddus?

 
6
OAQ52145 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i geisio datganoli gweinyddu lles?

 
7
OAQ52136 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau swyddfa bost yn Arfon?

 
8
OAQ52148 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygio lles ar bobl sy'n byw yn Nhorfaen?

 
9
OAQ52113 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru?

 
10
OAQ52128 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau tâl ac amodau teg ar gyfer y gweithlu llywodraeth leol?

 
11
OAQ52141 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael â chomisiynwyr yr heddlu ar y gostyngiad yn eu cyllidebau ar gyfer diogelwch cymunedol?

 
12
OAQ52139 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fonitro y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn awdurdodau lleol?

 
13
OAQ52144 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i reoleiddio asiantiaid eiddo ac asiantiaid rheoli eiddo?

 
14
OAQ52112 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i alluogi cynghorwyr etholedig i wneud eu gwaith yn effeithiol?

 
15
OAQ52120 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas ag annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

1
OAQ52146 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisi cynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r farchnad leol wrth ganiatáu datblygiadau tai?

 
2
OAQ52125 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru?

 
3
OAQ52142 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu tir amaethyddol yng Ngorllewin De Cymru?

 
4
OAQ52123 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd tuag at wneud dinas ranbarth Bae Abertawe yn ardal hunangynhaliol o ran ynni?

 
5
OAQ52147 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygiad arfaethedig Llywodraeth Cymru i Bolisi Cynllunio Cymru?

 
6
OAQ52132 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd ym Mro Morgannwg?

 
7
OAQ52114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sut y gall datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial helpu Cymru wledig?

 
8
OAQ52135 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014?

 
9
OAQ52131 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i'r galw am asesiad o effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri?

 
10
OAQ52126 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ganfyddiadau diweddaraf prosiect Re-energising Wales y Sefydliad Materion Cymreig?

 
11
OAQ52134 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu prosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru?

 
12
OAQ52121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio trapiau Larsen?

 
13
OAQ52119 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwaharddiad ar neonicotinoids?

 
14
OAQ52129 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â llosgydd biomas Barri?

 
15
OAQ52149 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd presennol ar ddatblygu deddfwriaeth lles anifeiliaid?