Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/01/2019 i'w hateb ar 09/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti TG mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella safonau ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer cynllun haf 2019 rhaglen gwella gwyliau’r haf?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda sefydliadau addysg bellach am ddarparu gwell mynediad i ddysgu gydol oes?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cynlluniau arweinyddiaeth disgyblion mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dderbyniadau i gyrsiau prifysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at addysg gerddoriaeth yn ysgolion Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau addysg yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllidebau ysgolion yn sgil setliad llywodraeth leol 2019-20?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ariannu ysgolion yn uniongyrchol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi dysgu oedolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith Estyn?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd meddyginiaethau fferyllol dros y cownter?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal iechyd a gynllunir yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?
Pryd y mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i ysbytai gyrraedd y targed amser aros o bedair awr ar gyfer gofal brys?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'n eu cymryd mewn perthynas ag atal HIV?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o adeiladu a chynllunio ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Grange?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd?
Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r amcanion yn 'Cymru Iachach'?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu nifer yr ymarferwyr cyffredinol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â gamblo cymhellol?
Pa feini prawf y mae Llywodraeth Cymru'n eu defnyddio i fesur llwyddiant y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys?