Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/01/2018 i'w hateb ar 09/01/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i ailgylchu plastig yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi mentrau yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad China i wahardd mewnforion plastig ar Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan yn 2018?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai awdurdodau lleol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog esbonio pam roedd angen i Lywodraeth Cymru ail-drafod ei threfniadau â Stiwdios Pinewood?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r prosesau statudol y mae'n rhaid eu dilyn pan fo sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn destun camau goruchwylio Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch dyfodol adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Islwyn drwy brosiectau buddsoddi cyfalaf?
Pryd oedd y tro diwethaf y cyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn aros llai na pedair awr cyn cael eu gweld mewn uned damweiniau ac achosion brys yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf yn y GIG yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghaerdydd?