Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/05/2018 i'w hateb ar 08/05/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ52130 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd is ?

 
2
OAQ52154 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r cabinet ar gyfer prifddinas-rhanbarth Caerdydd o ran cynllun datblygu strategol i dde-ddwyrain Cymru?

 
3
OAQ52153 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd meddygon y tu allan i oriau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
4
OAQ52156 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r rhai sy'n gadael gofal?

 
5
OAQ52155 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cynllun Cymorth i Brynu - Cymru?

 
6
OAQ52157 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng Nghwm Cynon?

 
7
OAQ52133 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i'r galwad gan Ovarian Cancer Action am archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser yr ofari yng Nghymru?

 
8
OAQ52117 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gaffael gwasanaethau iechyd yn Ngogledd Cymru?

 
9
OAQ52118 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio plaladdwyr yng Nghymru?

 
10
OAQ52137 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd yr M4?

 
11
OAQ52151 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymghynhgoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ddyfodol gwasanaethau iechyd?

 
12
OAQ52152 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ysbytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
13
OAQ52124 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran lleihau lefelau gordewdra?

 
14
OAQ52122 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o'r datblygiadau diweddaraf sy'n ymwneud â'r DU yn gwahanu oddi wrth yr UE?

 
15
OAQ52158 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi Aberafan?