Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/10/2018 i'w hateb ar 07/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Beth yw gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer dyfodol amaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n wynebu anawsterau yn dilyn insiwleiddio waliau ceudod o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o oblygiadau'r adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Transport for New Homes ar gyfer polisi cynllunio?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant llaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y cynigion a amlinellir yn ‘Brexit a’n tir’ ar yr iaith Gymraeg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno gwaharddiad cyfreithiol ar saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Tiroedd Comin 2006 yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dir comin?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran gwarchod rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amddiffyn pysgodfeydd yng nghanolbarth Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ffermwyr?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cyn-filwyr yn Islwyn?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau llywodraethu da gan awdurdodau lleol yng Nghymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru sy'n wynebu heriau o ganlyniad i galedi?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gryfhau democratiaeth leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
O ystyried bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwrthod cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr awdurdodau lleol, beth yw cynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer ad-drefnu awdurdodau lleol?
Faint o gyllid ychwanegol fydd ar gael i awdurdodau lleol yn dilyn y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru yn ddiweddar yng nghyllideb Llywodraeth y DU?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ariannu gwasanaethau llywodraeth leol yn Islwyn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bartneriaeth Lywodraeth Cymru gyda llywodraeth leol?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sut y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau ataliol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer cynghorau yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru ynghylch eu cyllidebau?