Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/01/2018 i'w hateb ar 07/02/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ51706 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Yn dilyn y gwrandawiad diweddar yn yr Uchel Lys, pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon ar lygredd aer?

 
2
OAQ51696 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r arholiad cymhwyso arfaethedig i gyfreithwyr a'i oblygiadau ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?

 
3
OAQ51701 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag erlyn am beidio â thalu'r dreth gyngor?

 
4
OAQ51721 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynglŷn â data personol?

 
5
OAQ51717 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch gallu pobl sy'n dioddef troseddau i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol?

 
6
OAQ51714 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu faint o arian sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar achosion llys sy'n ymwneud â llygredd awyr?

 
7
OAQ51715 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag adolygiad o achosion treisio yng Nghymru?

 
8
OAQ51727 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith mewn gwledydd datganoledig yn y DU am y Bil parhad sy'n cael ei ddwyn ymlaen gan Lywodraeth Cymru?

 
9
OAQ51729 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar y sector gwasanaethau cyfreithiol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ51719 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer chwaraeon proffesiynol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
2
OAQ51722 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol yng Nghwm Cynon?

 
3
OAQ51723 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd hybu enwau lleoedd cynhenid i dwristiaeth?

 
4
OAQ51702 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
5
OAQ51711 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf?

 
6
OAQ51703 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth yn Islwyn?

 
7
OAQ51713 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan?

 
8
OAQ51704 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru yn y pumed Cynulliad?

 
9
OAQ51707 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella ffyniant economaidd Gorllewin De Cymru?

 
10
OAQ51718 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb o £1.5 miliwn a ddyrannwyd i gefnogi'r economi sylfaenol?

 
11
OAQ51699 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?

 
12
OAQ51708 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi porthladdoedd Llywodraeth Cymru?

 
13
OAQ51712 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu tollau Pont Cleddau?

 
14
OAQ51697 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?

 
15
OAQ51710 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella llwybrau seiclo a cherdded yn y Rhondda?