Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/11/2017 i'w hateb ar 06/12/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Bil Masnach Llywodraeth y DU ar gyfer polisi caffael Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drethi newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru?
Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddyrannu i'r portffolio llywodraeth leol i ddelio â'r llifogydd diweddar yn Ynys Môn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith polisïau cyni ariannol Llywodraeth y DU ar Ferthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar fargen ddinesig Bae Abertawe?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn nodi a fydd yr egwyddorion blaengar a gynigiwyd ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn llywio ei bolisi treth yn fwy cyffredinol wrth i bwerau pellach dros drethi gael eu datganoli?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio ei phwerau trethiant sydd ar ddod?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cynghori ar Ewrop?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yn ardal Dwyrain De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i fabwysiadu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi busnes?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i anghenion llywodraeth leol wrth osod cyllideb Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion ar gyfer treth ar blastig?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer trethu mannau parcio mewn parciau manwerthu ar gyrion trefi?
Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau Teithio at Iechyd Gwell mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digidol priodol ar gael i fusnesau?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gydlyniant cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr mudol yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer Brexit?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag asesiadau llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno band eang Cyflymu Cymru ym Mhontypridd a Thaf Elái?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod mewn swyddi etholedig?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn y cartref?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu technoleg 5G?
Pa gamau y bydd Arweinydd y Tŷ yn eu cymryd i wella amodau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau band eang yn Nwyrain Abertawe?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru?